#

Y Pwyllgor Deisebau | 21 Mai 2019
 Petitions Committee | 21 May 2019 
 
 
 ,P-05-876: Amddiffyn rhywogaethau rhestredig Coch ac Amber yng Nghymru 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-876

Teitl y ddeiseb: Amddiffyn rhywogaethau rhestredig Coch ac Amber yng Nghymru

Testun y ddeiseb: Yn ddiweddar, mae wedi dod i'n sylw bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn rhoi trwyddedau i ganiatáu lladd rhywogaethau sy'n ymddangos ar restrau Coch ac Amber yr RSPB yng Nghymru, a hynny ar sail braidd yn annilys o bryd i'w gilydd, fel "diogelu bwyd gwartheg" a "diogelu'r awyr".

Mae dulliau eraill yn bodoli i wasgaru adar heb fod angen eu lladd. Mae pob rhywogaeth sydd wedi'u rhestru'n Goch mewn perygl difrifol o ddifodiant yng Nghymru, felly mae angen gwella lefel yr amddiffyniad er mwyn atal rhagor o ddirywiad i'n bioamrywiaeth naturiol.

Mae gan reolwyr Cyfoeth Naturiol Cymru safbwynt anthropocentrig o ran yr amgylchedd naturiol, ac felly nid ydynt yn addas i'r diben pan fo mater yn ymwneud ag amddiffyn yr amgylchedd a bioamrywiaeth.

Rydym ni, drwy lofnodi isod, yn dadlau nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn llwyddo i amddiffyn yr amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth yng Nghymru.

Rydym yn mynnu y dylai hawl Cyfoeth Naturiol Cymru (neu unrhyw gorff arall) i roi trwyddedau i ganiatáu lladd unrhyw rywogaethau Coch neu Amber rhestredig gael ei dynnu'n ôl ar unwaith, a bod angen i'r rheolwyr ystyried safbwynt llai anthropocentrig mewn perthynas â'r holl faterion sy'n ymwneud â'r amgylchedd a bioamrywiaeth.

Prif ddeisebydd: Chris Evans

Y cefndir

Adar o Bryder Cadwraethol

Adar o Bryder Cadwraethol 4 (BoCC4)yw'r pedwerydd adolygiad o statws cadwraethol adar yn y DU. Mae'n cynnwys rhestrau sy'n categoreiddio'r 244 o rywogaethau o adar yn y DU fel statws 'coch', 'amber' a 'gwyrdd' yn dibynnu ar eu pwysigrwydd cadwraeth. Mae'r adroddiad cysylltiedig yn cynnwys y rhestrau rhywogaethau. Rhywogaethau coch yw'r rhai sydd â'r flaenoriaeth gadwraethol uchaf (67 o rywogaethau), rhywogaethau amber sydd o bryder cymedrol (96 o rywogaethau), a rhywogaethau gwyrdd sydd â'r pryder lleiaf (81 o rywogaethau).

Mae BoCC yn gydweithrediad rhwng cyrff cadwraeth natur statudol y DU, sef y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB), Ymddiriedolaeth Adareg Prydain (BTO), yr Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir (WWT) a nifer o sefydliadau eraill. Daw'r data a ddefnyddir ar gyfer categoreiddio adar o gynlluniau monitro fel yr Arolwg Adar Bridio ac Arolwg Adar y Gwlyptir.

Nid yw coch yng nghyd-destun BoCC i'w ddrysu â rhestr goch yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (IUCN), er mai statws IUCN yw un o'r meini prawf a ddefnyddir yn asesiad BoCC.

Dywedir bod y newidiadau yn niferoedd a chyfrannau'r rhywogaethau ar y rhestrau coch, amber neu wyrdd yn rhoi syniad o statws adar y DU ac effeithiolrwydd y mesurau cadwraeth a gymerir. Mae'r rhestrau BoCC4 yn cael eu defnyddio gan sefydliadau cadwraeth fel yr RSPB i flaenoriaethu camau gweithredu.

Trwyddedu adar Cyfoeth Naturiol Cymru

Mae pob aderyn gwyllt, eu nythod a'u hwyau, yn cael eu hamddiffyn o dan Adran 1 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd) ('Deddf 1981'). Mae lladd, anafu neu gymryd unrhyw aderyn gwyllt yn fwriadol yn drosedd. O dan adran 16 o Ddeddf 1981, caiff awdurdodau priodol roi trwyddedau cyffredinol neu benodol i ganiatáu gweithredoedd a fyddai fel arall yn mynd yn groes i ddarpariaethau Deddf 1981 ynghylch amddiffyn adar gwyllt, os cânt eu gwneud at rai dibenion penodedig. 

Mae'r dibenion penodedig y gellir rhoi trwyddedau ar eu cyfer o dan adran 16 yn cynnwys:  

§    diogelu iechyd y cyhoedd a diogelu'r awyr;  

§    atal lledaeniad clefydau; ac  

§    atal niwed difrifol i dda byw, bwydydd ar gyfer da byw, cnydau, llysiau, ffrwythau, coed sy'n tyfu neu bysgodfeydd.  

Mae gan y trwyddedau amodau penodol a gall methu â chydymffurfio â'r amodau olygu bod trosedd yn cael ei chyflawni. Er enghraifft, mae un o amod safonol y trwyddedau a roddir o dan Ddeddf 1981 fel a ganlyn:

Dim ond os yw deiliad y drwydded yn sicr bod y dulliau o reoli’r adar heb eu lladd, fel dulliau o’u dychryn, naill ai’n aneffeithiol neu’n anymarferol y gellir dibynnu ar y drwydded hon.  

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn rhoi trwyddedau adar cyffredinol a phenodol yng Nghymru. Mae gwefan CNC yn nodi:

… rydym yn cydbwyso’n ofalus anghenion cadwraeth gydag elfennau’n ymwneud â lles y cyhoedd fel amddiffyn iechyd y cyhoedd, diogelwch y cyhoedd, lleihau niwed i gnydau a da byw a gwarchod pysgodfeydd.

Er enghraifft, gallem roi trwydded lle mae adar wedi mynd i mewn i ffatri prosesu bwyd, gan greu problem o ran iechyd y cyhoedd. Mae meysydd awyr hefyd yn ymgeisio am drwyddedau i saethu adar i leihau'r risg y bydd awyrennau'n taro adar.

Mae sawl 'trwydded gyffredinol' ar gyfer adar sy'n cael ei rhoi at ddiben penodol ac sy'n ddilys am flwyddyn. Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar faint o adar y gellir eu lladd.  Mae rhai wedi'u cyfyngu i rywogaethau penodol yn unig.

Mae CNC yn dweud ei fod ond yn rhoi trwydded 'pan fetho popeth arall' a'i fod yn 'hyderus na fydd y gweithgareddau a wneir dan y trwyddedau hyn yn effeithio ar statws cadwraethol unrhyw un o’n rhywogaethau brodorol'.

Mae rhestr o'r trwyddedau a roddwyd, yn ogystal â chofnodion o'r adar a laddwyd, i'w gweld ar wefan CNC. Mae hyn yn cynnwys rhywogaethau sydd ar restr goch BoCC (fel gwylanod y penwaig) a'r rhestr amber (fel gwylanod cefnddu llai).

Mae Natural England yn dirymu trwyddedau cyffredinol

Natural England yw'r corff trwyddedu cyfatebol yn Lloegr. Yn ddiweddar, fe wnaeth Wild Justice (cwmni dielw sydd newydd ei sefydlu i ddwyn achosion llys i amddiffyn bywyd gwyllt)ennill her gyfreithiol yn erbyn Natural England ar y sail nad oedd y dull trwyddedu cyffredinol yn gyfreithlon. Roedd yn dadlau nad yw Natural England yn gwneud digon i farnu achosion unigol, nac yn wir unrhyw achos o gwbl. Roedd yn gwrthwynebu lladd adar gwyllt yn ddiderfyn drwy gydol y flwyddyn. Dywedodd Wild Justice (ychwanegwyd pwyslais):

After nearly four decades of unlawful, casual killing of millions, tens of millions of birds, sanctioned by a succession of government statutory conservation agencies over the years, the current system has been shown to be unlawful…

We haven’t changed the law, we have merely shown that the current system of licensing of killing of certain species of birds, developed and administered by a statutory wildlife agency, is unlawful now and presumably has been for decades.  

Our successful legal challenge may well have implications for what happens in Wales, Scotland and Northern Ireland and we will be bringing this to the attention of the other statutory agencies.

Ar 25 Ebrill 2019, fe wnaeth Natural England ddirymu tair trwydded gyffredinol ar gyfer lladd adar. Mae'r trwyddedau yn caniatáu lladd 16 o rywogaethau o adar, gan gynnwys brain, parotanod, gwyddau Canada, rhai gwylanod ac ysguthanod.

Mae Wild Justice yn cytuno bod angen rheoli rhai adar; ei wrthwynebiad oedd bod y trwyddedau cyffredinol yn galluogi pobl i ladd adar yn fympwyol.

Mae'r dirymiadau wedi cael eu beirniadu'n sylweddol gan dirfeddianwyr, cymunedau ffermio a chymunedau saethu, sy'n dweud eu bod angen y trwyddedau i ddiogelu cnydau ac anifeiliaid rhag rhywogaethau adar penodol. Er enghraifft, dywedodd y Gymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad ei bod yn siomedig iawn bod Natural England yn adolygu'r trwyddedau heb unrhyw fudd ymarferol. Ar 29 Ebrill 2019, anfonwyd llythyr, wedi'i lofnodi gan wyth o grwpiau cefn gwlad, at Michael Gove, Ysgrifennydd Gwladol y DU dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, yn galw am ymchwiliad llawn i benderfyniad Natural England.

Mae Natural England wedi bod yn gweithio ar fesurau amgen fel bod camau rheoli cyfreithlon yn erbyn y rhywogaethau adar hyn yn gallu parhau mewn sefyllfaoedd diffiniedig. Ar 26 Ebrill 2019, cyhoeddodd Natural England y cyntaf o'r trwyddedau cyffredinol newydd ar gyfer rheoli adar. Dywedodd y prif weithredwr dros dro, Marian Spain, y bydd y trwyddedau newydd yn eu lle yn y dyddiau nesaf, yn cwmpasu'r mwyafrif helaeth o amgylchiadau y mae'r trwyddedau presennol yn eu cwmpasu. Bydd hyn yn sicrhau y gall tirfeddianwyr barhau i gymryd y camau angenrheidiol, gan hefyd ystyried anghenion bywyd gwyllt.

Mae Michael Gove wedi gorchymyn swyddogion i ymchwilio ar frys i opsiynau ar gyfer rheoli adar gwyllt. Mewn datganiad, dywedodd Natural England y bydd yn ymgynghori â rhanddeiliaid cyn yr adolygiad ehangach o drwyddedu cyffredinol a fydd yn digwydd yn ddiweddarach eleni.

Camau gan Lywodraeth Cymru

O dan adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ('Deddf yr Amgylchedd'), mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi rhestrau o gynefinoedd a rhywogaethau â blaenoriaeth y mae o'r farn eu bod 'o'r pwysigrwydd pennaf at ddiben cynnal a gwella bioamrywiaeth mewn perthynas â Chymru'. Yna disgwylir i awdurdodau cyhoeddus gymryd camau i gynnal a gwella'r rhywogaethau a'r cynefinoedd hyn. Ar hyn o bryd mae'r rhestrau hyn yn cael eu trosi o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (adran 42) fel mesur dros dro, ond mae Llywodraeth Cymru yn eu hadolygu mewn ymgynghoriad â CNC. Mae rhestr gyfredol y Ddeddf o rywogaethau â blaenoriaeth ar gyfer Cymru yn cynnwys rhywogaethau o adar sydd ar restrau coch ac amber BoCC4.

Yn ogystal, yn fwy cyffredinol, o dan Ddeddf yr Amgylchedd, mae disgwyl bod awdurdodau cyhoeddus Cymru (fel y'u diffinnir yn Adrannau 6(9) a 6(10), gan gynnwys Gweinidogion Cymru, yn 'hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau' ac yn 'cynnal a gwella bioamrywiaeth'. Y 'ddyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau' yw'r enw ar hyn Mae'n ofynnol i awdurdodau cyhoeddus gyhoeddi cynllun yn nodi'r camau y maent yn bwriadu eu cymryd i wella bioamrywiaeth a chynderthedd ecosystemau ac adrodd ar gynnydd. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn argymell y dylid cyhoeddi'r cynlluniau bioamrywiaeth a chydnerthedd o fewn blwyddyn i roi Cydsyniad Brenhinol i Ddeddf yr Amgylchedd (er bod hyn yn anstatudol), i ganiatáu amser cyn adrodd ar gynnydd cyn diwedd 2019.

Mae llythyr Llywodraeth Cymru at y Pwyllgor ynghylch y ddeiseb hon yn tynnu sylw at Gynllun Adfer Natur Cymru, sydd wrthi'n cael ei adnewyddu. Mae'r cynllun yn nodi sut y bydd Cymru yn cyflawni ymrwymiadau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol a Strategaeth Bioamrywiaeth yr UE i atal y dirywiad mewn bioamrywiaeth erbyn 2020 ac yna gwrthdroi'r dirywiad hwnnw. Mae llythyr Llywodraeth Cymru hefyd yn tynnu sylw at gyfeiriad strategol CNC ar gyfer bioamrywiaeth yng Nghymru yn Natur Hanfodol – gwneud y cysylltiadau rhwng bioamrywiaeth, y bobl a’r lleoedd yng Nghymru. Mae Natur Hanfodol yn pennu fframwaith lefel uchel ar gyfer camau gweithredu ar gyfer bioamrywiaeth yn unol â Chynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru. Mae'r ddau yn mynd i'r afael â sut y mae Llywodraeth Cymru a CNC yn ceisio cyflawni'r ddyletswydd bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau.

 

Camau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae'r Pwyllgor Deisebau wrthi'n trafod deiseb (P-05-852) i gyflwyno trwydded i reoli tir ar gyfer saethu adar hela mewn ymgais i roi terfyn ar erlid adar ysglyfaethus. Ar 23 Tachwedd, fe wnaeth Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd ar y pryd, ysgrifennu at y Pwyllgor yn datgan yr ariannodd Llywodraeth Cymru adolygiad ynghylch atal ac ymchwilio i droseddau bywyd gwyllt yng Nghymru yn 2017, a gynhaliwyd gan yr Uned Genedlaethol Troseddau Bywyd Gwyllt. Rhannwyd yr adroddiad gyda'r Pwyllgor. Nododd Llywodraeth Cymru lwyddiant secondio swyddogion yr heddlu i CNC a sefydlu timau troseddau gwledig penodedig yn heddluoedd Cymru. Dywedodd Hannah Blythyn yn ei llythyr at y Pwyllgor y bydd yn parhau i gefnogi CNC yn ei ymrwymiad i gydweithredu â heddluoedd Cymru i annog cydymffurfiaeth â deddfwriaeth bywyd gwyllt a'r amgylchedd yng Nghymru, a'i gorfodi.

Fe wnaeth Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, ddarparu gwybodaeth bellach yn tynnu sylw at y ffaith bod y cod ymarfer lles adar sy’n cael eu magu ar gyfer eu hela yn cael ei ddiweddaru. Hefyd, fe wnaeth hi dynnu sylw at waith swyddogion gyda Grŵp Cyflawni’r Flaenoriaeth i Atal yr Erlid ar Adar Ysglyfaethus.

Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig newydd wneud darn o waith ynghylch bioamrywiaeth yn edrych ar sut gellid cymhwyso Cynllun Nwyddau Cyhoeddus arfaethedig Llywodraeth Cymru, a amlinellir yn y Papur Gwyrdd Brexit a'n Tir, i adfer bioamrywiaeth. Tynnodd yr RSPB sylw at y gostyngiad hirdymor mewn rhywogaethau adar. Mae disgwyl i'r Pwyllgor ysgrifennu at Lesley Griffiths.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.